Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2022
Amser:
09.00 -
09.11
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 1 Mawrth 2022 -
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar y Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau hyd at fore 1 Mawrth 2022, yn hytrach na 3 Mawrth, yng ngoleuni'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y ddadl.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 9 Mawrth 2022 -
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i drefnu Dadl Aelodau arall dros dro ar 23 Mawrth 2022.
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
5 Amserlen y Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
6 Unrhyw faterion eraill
Fformat cyfranogiad yn y Cyfarfod Llawn
Yn y cyfarfod nesaf, byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried fformat y Cyfarfod Llawn ar ôl y toriad hanner tymor. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i drafod safbwyntiau cychwynnol ar gyfranogiad hybrid ar gyfer y tymor hir, a fyddai'n llywio papur i'w ystyried ar ôl yr hanner tymor.